아래는 노래 가사입니다. Rhagluniaeth Ysgafn , 아티스트 - Gruff Rhys 번역 포함
번역이 포함된 원본 텍스트
Gruff Rhys
O dyro i mi
Rhagluniaeth ysgafn
Rhagluniaeth ysgafn
Rhagluniaeth ysgafn
Mor ysgafn a’r awel fwyn
Rhagluniaeth ysgafn
Rhagluniaeth ysgafn
Rhagluniaeth ysgafn
Mor ysgafn a’r awel fwyn
A phan ddaw’r amser i gael fy marnu
O!
Cym i ystyriaeth fy nghyfraniad i’r achosion da
Ac er yr holl deithio
Y llwgr-wobrwyo
Y cyffuriau caled
Y merched o bedwar ban
Dw i wedi hen flino
Ar fy mhwdr areithio
Yr holl ddanteithio
Fy mrad o iaith y nef
Y rhegi cyhoeddus
Y lluniau anweddus
Fy nghabledd o flaen y groes
Yr hunan-dosturi
Y cwrw a’r miri
Fy ofer-ymffrostio
Tra’n rhostio yn y gwledydd poeth
A phan ddaw’r cyfweliad
Erfynaf am fynediad
Drwy lidiart y nefoedd
I’r cyfoeth ar yr ochr draw
A chym i ystyriaeth
Er gwaethaf fy mhechodau
Fy holl rinweddau
Sy’n rhifo ar un llaw
Ond beth bynnag dy farn
Erfynaf am
Rhagluniaeth ysgafn
Rhagluniaeth ysgafn
Rhagluniaeth ysgafn
Mor ysgafn a’r awel fwyn
Rhagluniaeth ysgafn
Rhagluniaeth ysgafn
Rhagluniaeth ysgafn
Mor ysgafn a phluen dryw
다양한 언어로 된 노래
모든 언어로 고품질 번역
몇 초 만에 원하는 텍스트를 찾으세요