Twll Bach Y Clo - Plethyn

Twll Bach Y Clo - Plethyn

Альбом
Blas Y Pridd / Golau Tan Gwmwl
Год
2010
Язык
`웨일스 말`
Длительность
224440

아래는 노래 가사입니다. Twll Bach Y Clo , 아티스트 - Plethyn 번역 포함

노래 가사 " Twll Bach Y Clo "

번역이 포함된 원본 텍스트

Twll Bach Y Clo

Plethyn

Roedd cap nos yr eira ar gopa pob bryn

A rhew wedi gwydro pob dwr, ffos a llyn

A Gwenno’n gweu hosan wrth olau’r tân glo

A Huwcyn oedd yn aros wrth dwll bach y clo

Clywch, clywch, fechgyn, clywch, clywch, clywch!

Mae’r cathod yn mewian yn uwch ac yn uwch

Y gath oedd yn gorwedd yn dwrch ar y mat

A’r tad yn pesychu wrth smocio ei giat

Y fam oedd yn ffraeo fel dynas o’i cho'

A Huwcyn oedd yn crynu wrth dwll bach y clo

Clywch, clywch, fechgyn, clywch, clywch, clywch!

Mae’r cathod yn mewian yn uwch ac yn uwch

Y fam oedd yn ffraeo fel dynas o’i cho'

A Huwcyn oedd yn crynu wrth dwll bach y clo

Y fam yn methu deall fod Gwenno mewn gwanc

Mor wirion â charu rhyw lefan o lanc

A Huwcyn yn gwybod mai hwnnw oedd o

A’i galon fach yn crynu wrth dwll bach y clo

Clywch, clywch, fechgyn, clywch, clywch, clywch!

Mae’r cathod yn mewian yn uwch ac yn uwch

A Huwcyn yn gwybod mai hwnnw oedd o

A’i galon fach yn crynu wrth dwll bach y clo

Y tad aeth i fyny i’r lloffta uwchben

A’r fam roes agoriad y drws dan ei phen

Ond Gwenno arhosodd i nyddu’r tân glo

‘Rôl dwedyd gair yn ddistaw bach drwy dwll bach y clo

Clywch, clywch, fechgyn, clywch, clywch, clywch!

Mae’r cathod yn mewian yn uwch ac yn uwch

Ond Gwenno arhosodd i nyddu’r tân glo

‘Rôl dwedyd gair yn ddistaw bach drwy dwll bach y clo

‘Roedd swn y dylluan fel boda yn y coed

A’r ci bach yn cyfarth wrth glywed swn troed

A Huwcyn yn dianc fel lleidr ar ffo

‘Rôl dwedyd gair yn ddistaw bach drwy dwll bach y clo

Clywch, clywch, fechgyn, clywch, clywch, clywch!

Mae’r cathod yn mewian yn uwch ac yn uwch

A Huwcyn yn dianc fel lleidr ar ffo

‘Rôl dwedyd gair yn ddistaw bach drwy dwll bach y clo

A chyn pen y flwyddyn roedd Gwenno Jones yn wraig

A Huwcyn yn hwsmon i fferm Tan-y-Graig

A chanddynt un baban, y glana’n y fro

Ac arno roedd man geni — llun twll bach y clo!

Clywch, clywch, fechgyn, clywch, clywch, clywch!

Mae’r cathod yn mewian yn uwch ac yn uwch

A chanddynt un baban, y glana’n y fro

Ac arno roedd man geni — llun twll bach y clo!

200만 개 이상의 가사

다양한 언어로 된 노래

번역

모든 언어로 고품질 번역

빠른 검색

몇 초 만에 원하는 텍스트를 찾으세요